Ken Skates

WBC Cuts | Dear Ken Skates… The Welsh Language Letter

This week, in response to the proposed cuts of 10.6% to the Welsh Books Council budget by the Welsh Government, the writers and publishers of Wales – over 600 hundred of them at the last count, including Sarah Waters and Phillip Pullman – have given their backing to letters that spell out in detail why the proposal would prove disastrous for Welsh culture. Here Wales Arts Review publishes the letter setting out the case for Welsh language literature, as penned by Angharad Price (an English language summary of the letter is printed below). And we also publish the letter from English language writers, written by Kathryn Gray, and the letter from the publishers.

If you believe the Welsh government are wrong to impose these cuts onto the Welsh publishing industry, please take a moment to sign this petition.

Annwyl Bwyllgor,

Yn gymuned o awduron ac ysgolheigion Cymraeg, ysgrifennwn atoch i fynegi ein pryder a’n siom o glywed am y toriadau arfaethedig i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru. Dyma ostyngiad o 10.6% yn yr arian a roddir i’r Cyngor Llyfrau, sef lleihad o £374,000. Mae hwn yn ostyngiad anferth mewn blwyddyn, ac yn llawer mwy na’r hyn a gafwyd i gyllidebau cyrff sy’n cyflawni gwaith tebyg i’r Cyngor Llyfrau (e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru a welodd ostynigad o 4.7%). Bydd yn cael effaith niweidiol ar gyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond bydd yr effaith ar gyhoeddi Cymraeg, yn benodol, yn gwbl andwyol.

Mae’r diwydiant llyfrau yng Nghymru yn esiampl o’r gwaith anhygoel y gellir ei gyflawni ar gyllideb fechan. Dros y degawd diwethaf, er gwaethaf toriadau blynyddol i’w gyllideb, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo’n rhyfeddol i gynnal diwylliant cyhoeddi hyfyw, deniadol ac effeithlon. Yn sgil y toriadau arfaethedig, ni fydd parhau i wneud hyn yn bosibl.

Mae cynnyrch y diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Chymreig yn apelio at bobl trwy Gymru a thu hwnt, ac yn fodd i gryfhau ymdeimlad o gymuned ddiwylliannol ar draws holl amrywiaeth y genedl. Bob blwyddyn, dan ofal y Cyngor Llyfrau, cyhoeddir ystod eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg, a’r rheiny’n amrywiol o ran cynnwys ac yn ddeniadol eu diwyg. Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd, ochr yn ochr â’r gweisg, yn chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo a hybu gwerthiant y llyfrau hynny.

Dyma gynnyrch diwylliannol sy’n chwarae rhan allweddol yn addysg ac ym mhrofiadau holl bobl Cymru, yn fabanod a phlant, yn ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg, ac yn oedolion o bob oedran a chefndir. Nid sôn am nofelau a barddoniaeth yn unig yr ydym, ond llyfrau mewn meysydd o bob math, o chwaraeon i ddiwylliant poblogaidd, yn gofiannau enwogion Cymreig ac yn gyfrolau poblogaidd sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru.

Nid oes angen pwysleisio bod y llyfrau hyn yn adnodd diwylliannol holl bwysig. Maent yn cadw ein hanes a’n treftadaeth yn fyw, yn gyfrwng inni fynegi ein hunain yn ddiwylliannol yn y presennol ac yn ffordd i ni agor ein llygaid tua’r dyfodol. Maent hefyd yn ffenest siop werthfawr i Gymru gerbron y byd. Erbyn hyn, mae llyfrau Cymraeg a Chymreig yn cael eu cyfieithu i ieithoedd byd-eang, o’r Sbaeneg i’r Tsineeg, ac mae hyn yn cryfhau proffil Cymru yng rhyngwladol. Mae i hyn hefyd ei fudd economaidd ei hun.

Ni ellir rhoi pris ar arwyddocâd o’r fath. Eto, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo i gyflawni’r gwaith hwn yn effeithlon a llwyddiannus ers blynyddoedd lawer, a hynny ar gyllideb fechan sydd wedi dioddef toriadau blynyddol er 2011.

Mae’r Cyngor wedi galluogi gweisg Cymru i ddal eu tir gerbron gweisg masnachol Prydeinig, a hynny mewn hinsawdd economaidd a diwylliannol heriol. Mae wedi sicrhau ein bod ni – yn awduron, darllenwyr ac ysgolheigion – yn gallu gweithio’n effeithiol o fewn fframwaith cynhaliol a gofalgar, a bod gennym hyder yn y corff sy’n hybu a hyrwyddo ein diwylliant llenyddol mewn modd adeiladol ac agored. Unwaith eto: llwyddwyd i wneud hyn oll yn effeithlon a di-wastraff ar gyllideb dynn.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi methrin perthynas agos a ffrwythlon gyda siopau llyfrau lleol ar draws Cymru: mae’r rheiny yn eu tro yn ganolfannau diwylliannol pwysig sydd yn cynnal digwyddiadau llenyddol poblogaidd, gan gyfrannu at hyfywedd a hunaniaeth ein trefi a’n dinasoedd. Ar ben hynny, trwy ei wefan, Gwales.com, mae Cyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod llyfrau Cymraeg a Chymreig ar gael i’r cyhoedd, waeth ble y bônt yn y byd, a sicrheir hefyd fod y llyfrau hyn yn cael eu hadolygu ar y wefan: mae hynny yn ei dro yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i’r cyhoedd. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Cyngor, dros y degawd diwethaf, wedi sicrhau bod y diwydiant llyfrau yng Nghymru yn ymateb i ofynion y cyfryngau digidol, gyda dros fil a hanner o e -lyfrau Cymraeg a Chymreig bellach ar gael trwy Gwales.

Effaith y toriadau arfaethedig, yn y lle cyntaf, fydd tanseilio’r holl lwyddiannau hyn.

  • Bydd y Cyngor, sydd eisoes dan bwysau enbyd, yn cael ei roi dan bwysau annioddefol a bydd y strwythur cyfan yn gwegian.
  • Bydd llai o lyfrau’n cael eu cyhoeddi, a bydd hyn yn ei dro yn rhoi llai o ddewis, o brofiadau ac o gyfleon i holl ddarllenwyr Cymru (yn blant, yn bobl ifanc ac yn oedolion).
  • Bydd yn lleihau siawns llyfrau Cymraeg a Chymreig o gyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru, yn ogystal, ac yn mennu ar broffil diwylliannol Cymru nid yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, ond yn rhyngwladol. O ganlyniad, bydd yn tanseilio enw da Cymru fel gwlad sydd, er ei bychander, yn creu cynnyrch llenyddol grymus ac arwyddocaol.
  • Bydd marchnata a hyrwyddo llyfrau yn mynd yn llai effeithlon, a bydd y gynulleidfa a gyrhaeddir yn crebachu.

Ar ben y cyfan, bydd swyddi yn cael eu colli: mae’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gwneud mwy na chyflogi awduron a chyhoeddwyr. Mae hefyd yn cyfrannu’n arwyddocaol at incwm cysodwyr, dylunwyr, ffotograffwyr, a darlunwyr, heb sôn am y golygyddion sydd yn gwneud gwaith allweddol yn cynnal safon uchel ein cyhoeddiadau. Mae llawer o’r bobl hyn yn gweithio ar eu liwt eu hunain, yn aml mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae’r cyfleon gwaith yn fach. Bydd effaith y toriadau hyn ar eu bywoliaeth hwythau yn andwyol.

Am ganrifoedd, llenyddiaeth oedd unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Dyma sut y buom yn ein mynegi ein hunain fel pobl: dyma a gadwodd ein hunaniaeth a’n hiaith yn fyw. Ers dyfodiad Datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol mae’r rôl honno, a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, wedi mynd o nerth i nerth, a bu’r budd i bobl Cymru, a’n hunanhyder fel gwlad, yn anfesuradwy.

Gofynnwn i chi yn awr beidio â thanseilio’r holl waith rhagorol sy’n digwydd ym myd cyhoeddi llyfrau yng Nghymru heddiw, a’r momentwm rhyfeddol sy’n nodweddu’r diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Chymreig ar hyn o bryd. Bydd y toriadau arfaethedig yn niweidio’r diwydiant am ddegawdau, ac, mewn rhai achosion, yn creu niwed parhaol. Gofynnwn i chi yn ddwys ac yn ddiffuant i ailystyried y toriadau arfaethedig ac anghytbwys i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru ac i ystyried gwir faintioli’r niwed a wneir trwyddynt. Maent yn anghymesur, yn annheg ac yn annerbyniol. O’u gwireddu, byddant yn ddinistriol i iechyd diwylliannol y genedl gyfan.

Yr eiddoch yn gywir,

 

(English summary)

As a community of Welsh-language writers and academics, we are writing to express our grave concern about the proposed cuts to the Welsh Books Council’s budget for the coming year. The 10.6% cut (£374,000), which is more than twice the cut proposed for similar bodies such as the Arts Council of Wales, will have a harmful effect on the publishing industry in Wales, in both languages, but the impact on writing and publishing in the Welsh language will be particularly devastating.

The publishing industry in Wales is an example of the wonders that can be achieved on a tight budget. Despite annual budget reductions since 2011, the Welsh Books Council has succeeded in sustaining a vibrant, attractive and efficient publishing industry. The proposed cuts will mean that maintaining this is no longer possible.

A wide range of books in both Welsh and English are published annually under the auspices of the WBC, representing a wide variety of interests and appealing to readers across Wales and beyond. The WBC also plays a key role in marketing books, promoting authors, and sustaining communities of readers across Wales.

Welsh books achieve so much. They make an important contribution to Welsh cultural identity. The play a key role in the education of Wales’s infants, school children, young people and university students, and provide a wide range of reading experiences for the people of Wales, of all ages and from all backgrounds. The WBC supports a wide range of books, not only novels and poetry, but books about sports, say, or popular culture, biographies of eminent Welsh people or popular studies of the history and culture of Wales. They nurture a sense of community and cultural identity, keeping our history and heritage alive, enabling us to express ourselves in the present, as well as to look into the future. They are also a valuable shop window for Wales. Welsh books are currently being translated into many of the world’s languages, from Spanish to Chinese, thus enhancing Wales’s international profile. This, too, has economic benefits.

The value of this is enormous, and the WBC has succeeded in doing this work efficiently and successfully. It has enabled Welsh publishers to hold their ground against larger UK companies, and to survive in a challenging economic climate. It ensures that we, as authors, readers and academics, can work effectively in a nurturing environment that promotes our interests in open and constructive ways. As a large and varied community of writers and academics, we have confidence in the WBC as a body.

The WBC has also maintained close relations with local bookshops throughout Wales: these, in turn, are important cultural centres holding popular literary events. This contributes to the vibrancy and the identity of our towns and city-centres.

Through its website, Gwales, the WBC ensures that Welsh books are available to readers across the globe. During the last decade it has responded well to the challenges of the digital revolution: over 1500 e-books are now available through Gwales.

The effect of the proposed cuts, if implemented, will be to undermine all these successes:

  • The WBC will be placed under even greater pressure than before.
  • Fewer books will get published, meaning less choice for Welsh readers (infants, children, young people, as well as adults).
  • It will lessen the chances of Welsh books reaching audiences beyond Wales, impairing Wales’s cultural profile not only within the UK but across the globe. In turn, this will undermine Wales’s reputation as a small country that punches far above its weight in terms of the quality of its literature.
  • The marketing and promotion of Welsh books will be less effective, and the audiences reached will therefore be smaller.

Finally, jobs will be lost: the Welsh publishing industry also provides income for book designers, photographers and illustrators, as well as the editors who are key to maintaining the high standards of our publications. Many of these people are self-employed, sometimes living and working in areas of Wales where employment opportunities are scarce. The proposed cuts will have a negative impact on the livelihoods of these people.

For centuries, literature was our only national institution as a people. This was how we expressed ourselves: this is what kept our identity and language alive. Since the advent of Devolution and the establishment of the National Assembly, that role, along with the publishing industry in Wales, has gone from strength to strength. The benefit to us, the people of Wales, and to our self-confidence as a nation, has been immense.

We ask you now not to undermine the excellent work currently being accomplished in the field of Welsh-language publishing, and the creative momentum within our books industry at present. The proposed cuts will harm our literary culture for years to come, and in some cases will cause permanent damage. They are disproportionate and unjust, and if carried out, will be detrimental to the whole nation’s cultural wellbeing.