Mae’r Wales Arts Review yn gartref i ysgrifennu beirniadol o safon uchel am fyd y celfyddydau – rhywle ble mae beirniaid angerddol a gwybodus o Gymru a thu draw yn gallu mynegi eu barn. Mae ein beirniaid celfyddydol ni yn bobl sy’n cymryd diddordeb manwl yn ein diwylliant a’n cymuned.
Cafodd Wales Arts Review ei sefydlu yn 2012, ac ers hynny, mae wedi bod yn llwyfan i genhedlaeth newydd o feirniaid. Mae’n rhywle i bobl drafod llyfrau, theatr, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau.
Er bod Wales Arts Review yn gyhoeddiad cyfrwng Saesneg, mae’r sefydliad yn falch iawn o’n hymwybyddiaeth ddwyieithog yma yng Nghymru. Nid ydym yn cyfyngu ein hunain i adolygu gweithiau Saesneg yn unig. Mae Wales Arts Review yn cyhoeddi erthyglau ar fyd y theatr Gymraeg o Theatr Genedlaethol Cymru i Theatr Bara Caws, ac yn hefyd adolygu rhaglenni teledu Cymraeg ar S4C. Rydym hefyd wedi adolygu’r gweithgareddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2014, enillodd nofel Caradog Pritchard Un Nos Ola Leuad ein gwobr am y llyfr gorau yng Nghymru.