Bafta Cymru 2020

BAFTA Cymru 2020 Award Winners Announced

The British Academy of Film and Television Arts (BAFTA) in Wales, BAFTA Cymru, has announced the winners of the 2020 British Academy Cymru Awards. The awards honour excellence in broadcasting and production within film and television in Wales and by the Welsh in UK productions and inspire the next generation of creative talent. His Dark Materials received three awards, for Ruth Wilson (Actress) and Suzie Lavelle (Photography and Lighting) with their first BAFTA Cymru wins, and for Joel Collins (Production Designer), the third of his career.

In the other performance categories, the Actor award was won by Jonathan Pryce for The Two Popes and the Presenter award was shared by Emma Walford and Trystan Ellis-Morris for Prosiect Pum MilIn My Skin received two awards, with Director: Fiction going to Lucy Forbes and Writer to past BAFTA Breakthrough participant Kayleigh Llewellyn.

Female practitioners dominated the 10 craft categories with Siân Jenkins winning her second Costume Design award for Eternal Beauty and Rebecca Trotman winning her first Editing award for her work on Doctor Who: Ascension of the Cyberman.

Melanie Lenihan won her first Make Up and Hair award for War of the Worlds.

The 2020 Breakthrough recipient was Lisa Walters for her role as producer on On The Edge: Adulting.

The Director Factual award was shared by Siôn Aaron and Timothy Lyn for Eirlys, Dementia a Tim.

The Sound award was won by the production team from Bang for Good Omens and Original Music was awarded posthumously to Pontypridd composer Jonathan Hill for The Long Song.

In the production categories, Television Drama was presented to The Left Behind.

Children’s Programme was awarded to Deian a Loli for the second time, Entertainment Programme was won by Cyrn ar y Mississipi, and the Short Film category was won by Salam.

In the factual categories, the News and Current Affairs winner was Channel 4 News – Flooding Strikes the South Wales Valleys; the Single Documentary category was won by The Prince and the Bomber; and the Factual Series award was won by Ysgol Ni: Maesincla.

*

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2020. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru, a chan bobl o Gymru ar gynyrchiadau’r Deyrnas Unedig, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ddawnus.

Enillodd His Dark Materials dair gwobr, ar gyfer Ruth Wilson (Actores) a Suzie Lavelle (Ffotograffiaeth a Goleuo), a oedd yn ennill gwobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, ac ar gyfer Joel Collins (Dylunydd Cynhyrchu), a enillodd drydedd wobr ei yrfa.

Yn y categorïau perfformio eraill, enillwyd y wobr Actor gan Jonathan Pryce ar gyfer The Two Popes a rhannwyd y wobr Cyflwynydd gan Emma Walford a Trystan Ellis-Morris ar gyfer Prosiect Pum Mil.

Enillodd In My Skin ddwy wobr; cyflwynwyd y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen i Lucy Forbes a’r wobr Awdur i gyfranogwr blaenorol Torri Trwodd BAFTA, Kayleigh Llewellyn.

Dominyddwyd y 10 categori crefft gan ymarferwyr benywaidd, wrth i Siân Jenkins ennill ei hail wobr Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Eternal Beauty a Rebecca Trotman ennill ei gwobr Golygu gyntaf am ei gwaith ar Doctor Who: Ascension of the Cyberman.

Enillodd Melanie Lenihan ei gwobr Colur a Gwallt gyntaf ar gyfer War of the Worlds.

Derbynnydd gwobr Torri Trwodd 2020 oedd Lisa Walters am ei rôl fel cynhyrchydd ar On The Edge: Adulting.

Rhannwyd y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol gan Siôn Aaron a Timothy Lyn ar gyfer Eirlys, Dementia a Tim.

Enillwyd y wobr Sain gan y tîm cynhyrchu o Bang ar gyfer Good Omens a chyflwynwyd y wobr Cerddoriaeth Wreiddiol i’r cyfansoddwr o Bontypridd, Jonathan Hill, ar ôl ei farwolaeth, ar gyfer The Long Song.

Yn y categorïau cynhyrchu, cyflwynwyd y wobr Drama Deledu i The Left Behind.

Dyfarnwyd y wobr Rhaglen Blant i Deian a Loli am yr eildro, enillwyd y wobr Rhaglen Adloniant gan Cyrn ar y Mississippi, ac enillwyd y categori Ffilm Fer gan Salam.

Yn y categorïau ffeithiol, enillwyd y wobr Newyddion a Materion Cyfoes gan Channel 4 News – Flooding Strikes the South Wales Valleys; enillwyd y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol gan The Prince and the Bomber; ac enillwyd y wobr Cyfres Ffeithiol gan Ysgol Ni: Maesincla.