connections through culture

British Council Launch Connections Through Culture Initiative

New Connections Through Culture: #IndiaWales grant will develop new cross-cultural creative collaborations to tour festivals in India and Wales. This three-year programme invites individual artists, arts organisations and festivals based in India or Wales to co-create new artistic work and share practice. This cross-cultural work will be supported to tour festivals in both countries in years two and three, encouraging the development of new international opportunities and networks; from research and development in year one to international festivals touring by years two and three.

The scheme will promote mutual and equitable collaboration between India and Wales so organisations can exchange sector knowledge, skills and business models to build a more sustainable and resilient festival sector in both countries.

The scheme launches October 24th 2019 at Welsh Government’s and the Honorary Consulate of India in Wales’ Diwali celebrations in Cardiff. The Welsh Government’s (draft) International Strategy indicates arts and heritage as a means of developing strong cultural relations and India is an important priority country.

This grant scheme builds on the success of #IndiaWales, the joint funding programme between the British Council and Wales Arts International/Arts Council of Wales, and Wales’ involvement in the UK-India Year of Culture in 2017.

#IndiaWales was an ambitious programme that supported more than 2,000 participants across 13 projects, within applied arts, dance, film, literature, music and visual and applied arts, engaged more than 80,000 audience members in Wales and India and reached over 4.9 million people through social media.

Barbara Wickham OBE, Country Director, British Council India said; “Through our work in arts we aim to strengthen the creative sector between India and the UK, helping organisations in both countries to connect, create and collaborate. Wales has a strong legacy of connections through arts with India and the new Connections Through Culture: #IndiaWales grant will further strengthen this bond. We have a strong focus on the development of the festivals sector in both countries and we hope organisations from across India will be encouraged to apply for this grant.”

Eluned Haf, Director, Wales Arts International said; The arts have a fundamental role to play in bridging our cultures and in uniting people – within Wales and with the world beyond. The long standing #IndiaWales programme, managed by Wales Arts International and British Council, has connected audiences and artists in both countries across languages, cultures and traditions, and has developed and enriched artistic practice, careers and ambition. We are delighted to support British Council’s new India Wales Connections through Culture: #IndiaWales scheme that will help to nurture existing relationships and grow new partnerships.


Bydd ein rhaglen grantiau newydd Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: #IndiaWales yn datblygu gweithiau cydweithredol creadigol traws-ddiwylliannol newydd a fydd yn teithio i wyliau yn India a Chymru.

Mae’r rhaglen dair blynedd newydd yma’n gwahodd artistiaid unigol, sefydliadau celfyddydol a gwyliau yn India a Chymru i gydweithio i greu gwaith artistig newydd a rhannu ymarfer.

Bydd y prosiectau traws-ddiwylliannol yma’n derbyn nawdd i deithio i wyliau yn y ddwy wlad yn ystod ail a thrydedd flwyddyn y rhaglen. Bydd hynny’n sbardun i ddatblygu cyfleoedd a rhwydweithiau rhyngwladol newydd; o fentrau ymchwil a datblygu ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen i deithio i wyliau rhyngwladol yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Bydd y cynllun newydd yma’n hybu cydweithio cyfartal rhwng India a Chymru er budd y naill a’r llall a galluogi sefydliadau yn y ddwy wlad i rannu gwybodaeth, sgiliau a modelau busnes er mwyn adeiladu sector gwyliau mwy cadarn a chynaliadwy yn y ddwy wlad.

Mae’r cynllun yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ar 24 Hydref 2019 yn ystod dathliadau Diwali Llywodraeth Cymru a Chonswliaeth Anrhydeddus India yng Nghymru.

Mae Strategaeth Ryngwladol (drafft) Llywodraeth Cymru yn nodi bod y celfyddydau a threftadaeth yn gyfryngau i feithrin perthnasoedd diwylliannol cryf a bod India’n wlad o bwys ymysg y perthnasoedd rhyngwladol sy’n cael blaenoriaeth.

Mae’r cynllun grantiau newydd yma’n gyfle i adeiladu ar lwyddiant #IndiaWales, rhaglen ariannu ar y cyd rhwng y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â manteisio ar gyfraniad Cymru i weithgareddau Blwyddyn Diwylliant y DU ac India yn 2017.

Roedd #IndiaWales yn rhaglen uchelgeisiol a roddodd gefnogaeth i dros 2000 o gyfranogwyr ar draws 13 o brosiectau gwahanol ym meysydd theatr, dawns, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol a chymhwysol. Cafodd dros 80,000 o bobl yng Nghymru ac India eu denu i ddigwyddiadau #IndiaWales, ac fe lwyddodd gweithgareddau’r rhaglen i gyrraedd mwy na 4.9 miliwn o bobl drwy gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Barbara Wickham OBE, Cyfarwyddwr Gwlad, British Council India: “Nod ein gwaith ym maes y celfyddydau yw cryfhau’r sector greadigol rhwng India a Chymru, gan helpu sefydliadau yn y ddwy wlad i feithrin cysylltiadau, creu a chydweithio. Mae gan Gymru etifeddiaeth gyfoethog o gysylltiadau drwy’r celfyddydau gydag India, ac fe fydd rhaglen grantiau newydd Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: #IndiaCymru yn cryfhau’r cwlwm rhwng y ddwy wlad. Mae gyda ni ffocws cryf ar ddatblygu’r sector gwyliau yn y ddwy wlad ac rydyn ni’n gobeithio y bydd sefydliadau ledled India’n cael eu hannog i geisio am y grant yma.”

Dywedodd Eluned Haf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Mae gan y celfyddydau ran sylfaennol i’w chwarae wrth bontio ein diwylliannau ac uno pobl yma yng Nghymru ac yn y byd tu hwnt. Mae rhaglen #IndiaWales, sy’n cael ei rhedeg gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council, wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn. Bu’n gyfrwng i gysylltu cynulleidfaoedd ac artistiaid yn y ddwy wlad ar draws ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau gan ddatblygu a chyfoethogi ymarfer artistig, gyrfaoedd ac uchelgais. Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi’r British Council gyda chynllun newydd Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: #IndiaWales – cynllun a fydd yn helpu i ddyfnhau perthnasoedd sy’n bodoli eisoes yn ogystal â meithrin partneriaethau newydd.”