Creu Cymru

Creu Cymru | Wedi Uno’r Celfyddydau Perfformio yng Nghymru

Creu Cymru: Gosod y Llwyfan ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru. This article is also available in English.

Sefydlwyd Creu Cymru gan ac ar gyfer y rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau cyflwyno a reolir yn broffesiynol ledled Cymru yn 2001 fel Asiantaeth Teithiol Cymru, gyda grant Loteri am ddwy flynedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Am 20 mlynedd, mae Creu Cymru wedi cefnogi theatrau, y staff o’u cwmpas a chymunedau ehangach gyda hyfforddiant, prosiectau meithrin gallu, cynhadledd flynyddol, cyfleoedd Mynd a Gweld a theithiau wedi eu hwyluso. 

O fis Ebrill 2021 ymlaen, byddant yn ehangu ein cylch gwaith aelodaeth i gynnwys cwmnïau cynhyrchu ac unigolion, i ddod â’r sector celfyddydau perfformio at ei gilydd i siarad â llais ar y cyd, i rannu adnoddau ac arbenigedd ac i hyrwyddo cydweithio.

Mae Creu Cymru, yn anad dim, yn rhwydwaith cydweithredol; rydym yn rhannu gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil, teithio, eiriolaeth… ac, uwchlaw popeth, ewyllys i ddatblygu rhaglenni a chynulleidfaoedd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi adnodd fwyfwy cydnerth sydd wrth galon cymunedau ledled Cymru.

Rydym yn awr yn gwahodd ceisiadau gan gwmnïau ac unigolion i ymaelodi.

Mae creu’r sector unedig hwn drwy ehangu’r aelodaeth yn sicrhau cynrychiolaeth traws-sector, cydweithrediadau newydd a chysoni buddiannau, a phartneriaethau newydd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi:

  • Parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol, mapiau ffyrdd ailagor a digwyddiadau profi, sicrhau cyfarfodydd rheolaidd ar ran yr aelodau presennol.
  • Cynghori Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ar ganllawiau ailagor
  • Bod yn rhan o Gynghrair Mynediad i Gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig, gan wneud yn siŵr bod mynediad wrth galon y cynlluniau ailagor. 
  • Datblygu pecynnau cymorth ar gyfer ailagor y gall lleoliadau eu defnyddio, gan gynnwys asesiadau risg a thempledi eraill a cynnig ymweliadau safle i weithwyr proffesiynol i roi cyngor ar weithio’n ddiogel o ran Covid.
  • Gweithio gyda chyrff theatr ledled y Deyrnas Unedig fel UK Theatre, Theatres Trust, ABTT, One Dance UK, FST a Theatre NI ar ddulliau cenedlaethol o ailagor ac eirioli. 
  • Darparu hyfforddiant i aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau, gan gynnwys Llesiant, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Rheoli Covid yn Ddiogel, Ffrydio Byw, Cyfryngau Cymdeithasol, Ailennyn diddordeb cynulleidfaoedd, Rhagfarn Ddiarwybod a Chynghreirio yn y Gweithle. 
  • Agor ein digwyddiadau hyfforddi a’n cynhadledd i sefydliadau nad ydynt yn aelodau a sicrhau bod y pecyn adnoddau ar gael i bawb.
  • Creu cyfleoedd rhwydweithio i aelodau ddod at ei gilydd, rhannu pryderon a syniadau ar gyfer gwella. 
  • Cyllido naw swydd lawrydd i weithio gydag aelod-leoliadau a chynorthwyo eu sefydliad yn ystod y cyfnod hwn. 
  • Rhedeg ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau Cymdeithasol ar sut mae ein lleoliadau presennol ar gyfer aelodau wedi cael eu cau ond nad ydynt wedi bod yn wag. Ymgyrch ‘#WeMissYou’ – sy’n tynnu sylw at flwyddyn ers i’n theatrau gau. Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth gan y cyhoedd ac wynebau cyfarwydd ar-lein. Rhoddwyd sylw i’r ymgyrch gan Wales Online Arts, Dros Frecwast, Radio Cymru, Newyddion S4C, ITV Wales, BBC Cymru Fyw, Welsh Arts Review, Wales Today, BBC One Wales, The National a The Leader. 
  • Comisiynwyd Lisa Baxter o’r Experience Business i redeg dau brosiect hyfforddi dwys i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau (Public Value Accelerator – Igniting fresh thinking and practice a Creating sustainable audience value post-Covid)
  • Rhedeg cynhadledd ar-lein lwyddiannus ar gyfer dros 120 o bobl ar-lein, gydag Alan Lane (Slung Low), Alun Saunders (Actor / Awdur / Perfformiwr Drag), Bryan Joseph Lee (Public Theater NYC / Back 2 Culture), Daniel Evans (Cichester Festival Theatre), Kate Fox (MIF), Lianne Weaver (Beam Training), Lisbeth McLean (Menter Merthyr Tudful), Sita Thomas (Common Wealth Theatre) a Steffan Donnelly (Actor / Awdur / Tasglu Llawrydd Cymru) gyda chynnwys ychwanegol ar gael ar-lein ar ôl y digwyddiad. 
  • Wedi ymgysylltu â Chyfarwyddwyr Artistig, Prif Weithredwyr, Technegwyr, Rhaglenwyr, Gweithwyr Marchnata, Blaen Tŷ, Rheolwyr Gweithrediadau, Glanhawyr a Staff Swyddfeydd Tocynnau.

Ceir pedair lefel o aelodaeth, gyda’r nod o’i gwneud mor hygyrch â phosibl i sefydliadau ac unigolion ymaelodi.

Mae Aelodaeth Lawn yn agored i unrhyw fudiad proffesiynol yng Nghymru sydd â’r prif bwrpas o gynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio. Mae aelodaeth yn enw’r sefydliad a gall pob gweithiwr elwa ar fod yn aelod. 

Mae Aelodaeth Unigol yn agored i unrhyw unigolyn o Gymru, sy’n byw yng Nghymru, neu sy’n cael ei gydnabod fel un sy’n cyfrannu’n rheolaidd i’r celfyddydau perfformio yng Nghymru. 

Mae lefel aelodaeth talu wrth fynd, yn agored i unrhyw unigolyn o Gymru, sy’n byw yng Nghymru, neu sy’n cael ei gydnabod fel un sy’n cyfrannu’n rheolaidd i’r celfyddydau perfformio yng Nghymru.  Gallwch gyrchu rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael ar sail Talu wrth Fynd. 

Cyflwynir Aelodaeth Gysylltiedig yn 2022 ac mae yn agored i fudiadau proffesiynol yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector theatr neu ddawns mewn swyddogaeth ategol neu strategol sydd hefyd yn gallu ategu cenhadaeth Creu Cymru, ond nad cynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio yw eu prif bwrpas. Mae aelodaeth yn cael ei chadw yn enw’r sefydliad a gall pob gweithiwr elwa ar fod yn aelod. 

Mae hyn yn cynnwys sefydliadau y tu allan i’r sector creadigol sy’n dymuno ymgysylltu â’r rhai sydd yn y sector. 

Gellir cael hyd i’r holl ffioedd a manylion ar y wefan Dewisiadau a Buddion Aelodaeth | Creu Cymru

Gall sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb gysylltu â Creu Cymru I gael dolenni â’r ffurflenni cais.  Rhaid i’r holl geisiadau ddod i law erbyn 31/5/2021.

Yn ôl Louise Miles Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru ‘The last year has been the most challenging the arts have ever faced. We hope that joining the sector together will create a more scene in Wales. It will also strengthen our collective voice outside of our sector, both publicly and with policy and decision makers’.

 

This article is promoted by Creu Cymru.