national museum Wales

National Museum Wales Reopening

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales has announced that it will reopen National Museum Cardiff to the public from Thursday 27 August. The museum will be open every Tuesday, Thursday, Saturday and Sunday. All visitors must book their free visit in advance, online. This is to manage visitor numbers and ensure the safety of visitors, staff, volunteers and local communities. Visitors will also be asked to wear face coverings when they visit for the wellbeing of staff and visitors.

Amgueddfa Cymru is a family of 7 museums. Some have already reopened, and others are on the verge of reopening. All museums will be opening with pre-booking and limited days:

Saint Fagans, National Museum of History – reopened 4 August

National Slate Museum – reopened 23 August

National Waterfront Museum – will reopen Friday 28 August

Big Pit National Coal Museum – will reopen Tuesday 1 September

National Roman Legion Museum – will reopen Wednesday 2 September

National Wool Museum – will reopen Thursday 3 September

Amgueddfa Cymru has been supporting local business to source PPE and hygiene equipment during Covid. Sanitiser stations and gels have been sourced from Chemsol Cymru in Conwy whilst the PPE face visors for staff have been sourced from DMM Climbing in Llanberis.

David Anderson, Director General of Amgueddfa Cymru, said: “We’re all looking forward to welcoming our visitors back to our national museums. Although our buildings were closed, we have been open online over the last four months, providing learning resources for schools, art to field hospitals, and solace and inspiration for everyone. Museums play a key role in the health and wellbeing of people and communities and I hope everyone will come back out to visit us and support us.

“Our main priority remains that everyone stays safe and we will be following Welsh Government guidelines and continue to monitor the situation over the weeks ahead.

“We are encouraging visitors to go to the website museum.wales to find out more about the new measures in place and also to enjoy the resources online and on our digital platforms.

“During the closures we have had a fantastic response to our ‘Collecting Covid’ project asking the people of Wales to be part of the story by sharing their experiences and feelings of living in Wales during pandemic. This will form an important record for future generations.”

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales is a family of seven museums and a collections centre, which are all free to enter thanks to the support of the Welsh Government. Together, it is home to the nation’s art, history and science collections, which will continue to grow so that they can be used and enjoyed by both present and future generations.

One of its museums, St Fagans National Museum of History which explores the history and culture of Wales, won the Art Fund Museum of the Year 2019.

As a registered charity, Amgueddfa Cymru is grateful for all support.

The events and exhibitions programme is supported by players of the People’s Postcode Lottery. 

During this period a number of Amgueddfa Cymru’s popular events can be enjoyed from home online. Find out more about the Amgueddfa Cymru digital food festival on the website www.museum.wales

 

*

 

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ailagor i’r cyhoedd o ddydd Iau 27 Awst. Bydd yr amgueddfa ar agor bob dydd Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul.

Rhaid i bob ymwelydd archebu eu hymweliad am ddim ymlaen llaw, ar-lein. Mae hyn er mwyn rheoli niferoedd a sicrhau diogelwch ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol. Rydym yn gofyn hefyd i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld er lles staff ac ymwelwyr.

Bydd arlwy y caffi a’r bwyty wedi lleihau o gymharu a chyn y cyfnod cloi. Bydd rhai ardaloed o’r Amgueddfa ar gau am y tro.

Er mwyn sicrhau bod profiad ymwelwyr mor ddiogel a dymunol â phosibl, mae Amgueddfa Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau newydd. Mae rhain yn cynnwys rheoli nifer ymwelwyr ar y safle drwy gyflwyno archebu ymlaen llaw, arwyddion ymbellhau cymdeithasol drwy’r gofodau cyhoeddus, systemau unffordd a mwy o lanhau.

Gall ymwelwyr ddilyn Amgueddfa Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r wefan am fanylion ar sut i archebu a beth i’w ddisgwyl, www.amgueddfa.cymru.

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cefnogi busnesau lleol drwy brynu PPE a chyfarpar hylendid yn ystod y pandemig. Daeth y gorsafoedd hylendid a hylif diheintio gan Chemsol Cymru yng Nghonwy, a’r tariannau wyneb PPE i staff o DMM Climbing yn Llanberis.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein hymwelwyr yn ôl i’r amgueddfeydd. Er bod ein hadeiladau wedi bod ar gau, rydym wedi bod ar agor ar-lein dros y pedwar mis diwethaf, yn darparu adnoddau addysg i ysgolion, celf i ysbytai maes, a chysur ac ysbrydoliaeth i bawb. Mae amgueddfeydd yn chwarae rôl allweddol yn iechyd a lles pobl a chymunedau a gobeithiaf y bydd pobl yn dod nôl i ymweld â ni a’n cefnogi ni.

“Diogelwch pawb yw ein prif flaenoriaeth, a byddwn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf.

“Rydym yn annog ymwelwyr i fynd ar wefan amgueddfa.cymru i ganfod mwy am y mesurau newydd sy’n eu lle a hefyd i fwynhau’r adnoddau ar-lein ac ar ein platfformau digidol.

“Yn ystod y cyfnod clo rydym wedi cael ymateb arbennig i’n project Casglu Covid sy’n gofyn i bobl Cymru fod yn rhan o’r stori drwy rannu eu profiadau a’u hargraffiadau o fyw yng Nghymru yn ystod pandemig. Bydd hyn yn ffurfio cofnod pwysig i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.

Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o ddigwyddiadau poblogaidd Amgueddfa Cymru ar gael i’w mwynhau adref ar-lein. Mae mwy o wybodaeth am Ŵyl Fwyd Digidol Amgueddfa Cymru ar y wefan www.amgueddfa.cymru.

 

Mae 7 amgueddfa yn nheulu Amgueddfa Cymru. Mae rhai eisoes wedi ailagor, ac eraill ar fin ailagor. Bydd yr holl amgueddfeydd eraill yn agor am nifer cyfyngedig o ddyddiau, a gyda archebu ymlaen llaw:

Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru – wedi ailagor ers 4 Awst

Amgueddfa Lechi Cymru – wedi ailagor ers 23 Awst

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – yn ailagor dydd Gwener 28 Awst

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – yn ailagor dydd Mawrth 1 Medi

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – yn ailagor dydd Mercher 2 Medi

Amgueddfa Wlân Cymru – yn ailagor dydd Iau 3 Medi