PETER REYNOLDS 1958 – 2016
The classical music world in Wales has reacted with sadness to the news of the sudden death of Peter Reynolds, a composer with a rare combination of skills who made a significant contribution to many aspects of the musical life of Wales.
His compositions are informed by a deep knowledge of contemporary music and culture. He worked principally in smaller scale forms, which suited the distinctive and particular style of his work. His encyclopedic knowledge helped rather than hindered the development of an individual voice and he leaves a legacy of work of great skill and integrity. Evident in that work also is an interest in the quirky and individualistic together with the will and ability to capture the imagination of a broader audience. His four minute opera The Sand of Time (1993) is listed by the Guiness Book of Records as the world’s shortest opera and at the time of his death he was working on a car horn fanfare for the Vale of Glamorgan Festival to be performed by vintage cars at the Barry Waterfront.
His work as a composer fed into myriad contributions to the musical life of Wales. He founded the PM Ensemble, which for many years enlivened the contemporary music world. He was also for more than a decade Artistic Director of the Lower Machen Festival. He advised on and curated programming for many concert series including the International Concert Series at St. David’s Hall, foyer concerts at the Wales Millennium Centre, and chamber music concerts at the Reardon Smith Lecture Theatre Cardiff. In 2009 the BBC published his book on the history of the BBC National Orchestra of Wales. He also contributed articles, reviews and programme notes to a wide number of publications and concert organisations.
As a teacher, he was a long-term member of the academic staff of the Royal Welsh College of Music and Drama and between 2010 and 2013 was Composer-in-Residence for the Young Composer of Dyfed, a role he had recently resumed. He played a valuable part in the governance of a number of musical organizations including the Vale of Glamorgan Festival and Tŷ Cerdd – Music Centre Wales. His advice and support was often sought, greatly valued and freely given.
In all of this he was sensitive and well-informed, a deeply trusted and much-loved friend and mentor to colleagues. His kindness, intelligence, instinctive generosity of spirit, and wit live on in a fascinating catalogue of musical works.
John Metcalf 12th October 2016
PETER REYNOLDS 1958 – 2016
Mae byd cerddoriaeth glasurol yng Nghymru wedi ymateb gyda thristwch i’r newyddion am farwolaeth sydyn Peter Reynolds, cyfansoddwr oedd yn meddu ar gyfuniad prin o sgiliau ac un a wnaeth gyfraniad sylweddol i sawl agwedd ar fywyd cerddorol Cymru.
Mae gwybodaeth ddofn o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes yn llywio ei gyfansoddiadau. Roedd yn gweithio gan mwyaf mewn ffurfiau ar raddfa lai, ac roedd hynny’n gweddu i arddull unigryw ac arbennig ei waith. Roedd ei wybodaeth hollgynhwysfawr yn cynorthwyo yn hytrach na llesteirio datblygiad llais unigol ac mae’n gadael cymynrodd o waith sy’n arddangos dawn a chyfanrwydd rhyfeddol. Mae diddordeb yn yr hynod a’r unigolyddol hefyd yn amlwg yn y gwaith hwnnw, ynghyd â’r ewyllys a’r gallu i ddal dychymyg cynulleidfa ehangach. Mae ei opera pedair munud ‘The Sand of Time’ (1993), wedi ei rhestru yn The Guinness Book of Records fel yr opera fyrraf yn y byd ac adeg ei farw roedd yn gweithio ar ffanffer i gyrn ceir ar gyfer Gŵyl Bro Morgannwg i’w pherfformio gan hen geir yng Nglannau’r Barri.
Roedd ei waith fel cyfansoddwr yn ymdreiddio i gyfraniadau fyrdd mewn perthynas â bywyd cerddorol Cymru. Sefydlodd y PM Ensemble, a fu am nifer o flynyddoedd yn bywiogi byd cerddoriaeth gyfoes. Am ddegawd a mwy hefyd bu’n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Machen Isaf. Bu’n rhoi cyngor ar ac yn curadu rhaglennu ar gyfer nifer o gyfresi cyngerdd, ac yn eu plith y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, cyngherddau cyntedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a chyngherddau cerddoriaeth siambr yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith yng Nghaerdydd. Yn 2009 cyhoeddodd y BBC ei lyfr ar hanes Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Cyfrannodd erthyglau, adolygiadau a nodiadau rhaglen i nifer helaeth o gyhoeddiadau a sefydliadau cyngerdd hefyd.
Fel athro, roedd yn aelod hirdymor o staff academaidd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a rhwng 2010 a 2013 ef oedd Cyfansoddwr Preswyl cynllun Cyfansoddwr Ifanc Dyfed, rôl roedd wedi ailafael ynddi yn ddiweddar. Bu’n chwarae rhan werthfawr yn y dasg o lywodraethu nifer o sefydliadau cerddorol, ac yn eu plith Gŵyl Bro Morgannwg a Tŷ Cerdd – Music Centre Wales. Gofynnwyd yn aml am ei gyngor a’i gefnogaeth – a roddai o’i wirfodd – a gwerthfawrogid hynny’n fawr.
Yn hyn i gyd roedd yn gyfaill a mentor sensitif, gwybodus a thra hoffus i’w gydweithwyr ac yn un y gellid ymddiried yn fawr ynddo. Bydd ei garedigrwydd, ei ddeallusrwydd, ei ysbryd haelionus greddfol yn parhau mewn catalog hynod ddiddorol o weithiau cerddorol.
John Metcalf 12fed Hydref 2016