Poetry Podcast | Clera Awst

Poetry Podcast | Clera Awst

Cafodd rhifyn mis Awst o bodlediad Clera ei recordio’n fyw yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Môn. Mae’r cyfan, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Dyma’r eildro mewn dau fis inni recordio’n fyw, ar ôl ein hymweliad â’r Sesiwn Fawr yn ôl ym mis Gorffennaf. A hithau’n Sadwrn olaf y brifwyl, roedd y croeso a gawson ni yn y Babell Lên gystal ag unrhyw ffisig i’n cadw ni’n ffres ar ddiwedd wythnos brysur iawn ar gyrion Bodedern! Mae’r arlwy o’r maes yn cynnwys sgwrs ddifyr iawn ag enillydd y Goron, Gwion Hallam (mae’r bryddest fuddugol ar gael i’w darllen fan hyn), cerdd newydd sbon gan enillydd Tlws D. Gwyn Evans, Morgan Owen, a deng munud o giamocs gwych gydag Anni Llŷn ac Endaf Griffiths. Diolch i bawb am gyfrannu, a diolch hefyd i griw a chynulleidfa’r Babell Lên – ro’n i a Nei ar ben ein digon!

1. Pwnco: sgwrs â bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Môn, Gwion Hallam
2. 15.25 Yr Orffwysfa: cerdd fuddugol cystadleuaeth Tlws D. Gwyn Evans, ‘Gwyfyn’ gan Morgan Owen
3. 19.50 Pos rhif 6 gan Gruffudd a’i Ymennydd Miniog
4. 23.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis
5. 33.10 Gemau a Giamocs gydag Anni Llŷn ac Endaf Griffiths
6. 43.00 Y Newyddion Heddiw

This month’s Clera podcast was recorded live at the National Eisteddfod of Wales on Anglesey. We catch up with the winner of the Crown competition, Gwion Hallam, and enjoy a brand new poem by Morgan Owen, the winner of the D. Gwyn Evans prize for poets under 25. Both Anni Llŷn and Endaf Griffiths pitch in too with hilarious new takes on well-known poems – and much more!