Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn edrych yn ôl at wythnos y brifwyl ym Môn ac ymlaen at orwel yn llawn digwyddiadau barddol cyffrous. Y gwestai arbennig y tro hwn yw’r prifardd Osian Rhys Jones – neu’r prifardd Osian Corrach i lawer – enillydd cystadleuaeth y Gadair eleni. Diolch Osian am dy gwmni ac am roi lifft i Aneurig i fyny’r bryn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru! Aethon ni i’r Llyfrgell Gen i gael sgwrs â phrifardd arall, Dafydd John Pritchard, am sioe deithiol newydd y Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am Hedd Wyn a’r Rhyfel Mawr, sef Y Gadair Wag. Megis clustogau esmwyth ar y naill ochr i’r ddwy sgwrs hynny mae’r eitemau arferol, o’r pos i’r newyddion i gerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, sef un o gerddi’r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – mae’r pedair cerdd a luniodd Grug ar gael i’w darllen ar wefan y Stamp.
<iframe width=”100%” height=”166″ scrolling=”no” frameborder=”no” src=”https://w.soundcloud.com/player/?url=https%3A//api.soundcloud.com/tracks/342794398&color=ff5500″></iframe>
2. 18.30 Pos rhif 8 gan Gruffudd a’i Ymennydd Miniog
3. 22.00 Yr Orffwysfa: ‘Triciau’ gan Elinor Wyn Reynolds
4. 26.10 Sgwrs â’r bardd o Langrannog, Philippa Gibson
5. 34.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
6. 41.10 Gemau a Giamocs gyda Hywel Griffiths ac Eilnor Wyn Reynolds
7. 48.30 Y Newyddion Heddiw