Poetry Podcast | Clera Ebrill

Poetry Podcast | Clera Ebrill

Ychydig yn hwyrach na’r arfer, dyma groesawu podlediad Clera mis Ebrill i’r gorlan! Mae’r podlediad, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Yr awdl yw testun trafod y Pwnco ar gyfer y mis hwn – beth yw awdl, pa ddyfodol sy i’r awdl, ac ai cerdd eisteddfodol yw hi’n unig? Os ie, pa ots? Fe ges i a Nei fodd i fyw yn trafod, ac fe gawson hefyd ni gyfraniad arbennig i’r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones. Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cerdd gan Iestyn Tyne, sgwrs â Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac adroddiad arbennig o recordiad diweddar o Dalwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Hyn oll a llawer, llawer mwy!

1. Pwnco: sgwrs am yr awdl fel ffurf, gyda chyfraniad gan y prifardd Tudur Dylan Jones ​2. 26.34 Pos rhif 2 gan Gruffudd a’i Ymennydd Miniog 3. 29.00 Yr Orffwysfa: cerdd ‘Derbyn’ gan Iestyn Tyne 4. 30.57 Sgwrs gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn 5. 43.30 Eitem a recordiwyd yn Neuadd Pantycelyn yn un o rowndiau cyntaf Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, yn cynnwys sgwrs gydag aelodau tîm newydd y Llew Du a’r meuryn ei hun, Ceri Wyn Jones (mae’r cerddi i gyd ar gael fan hyn) 6. 50.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! gyda’n gwestai arbennig, Iestyn Tyne 7. 01.05.27 Y Newyddion Heddiw – See more at: http://www.eurig.cymru/blog#sthash.SBJfYNzU.dpuf