Poetry Podcast | Clera Mai

Poetry Podcast | Clera Mai

Wŵp wŵp, yn wir – mae’r haf ar y gorwel. Ac ychwanegwch un wŵp arall, oherwydd mae podlediad Clera mis Mai wedi cyrraedd! Mae ar gael yn yr un llefydd ag arfer – SoundCloud ac iTunes. Yn ogystal â melysleisiau Aneurig, mae rhifyn Mai yn llawn dop o leisiau eraill hefyd – pwnco arbennig ar swydd Bardd Plant Cymru gyda’r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn, a chyn-drefnydd y prosiect, Leusa Llywelyn, sy bellach yn rheolwr Tŷ Newydd; cerdd newydd sbon gan y prifardd Hywel Griffiths i ddathlu cyhoeddi ei gyfrol newydd, ​Llif Coch Awst; a dyddiadur sain o Gwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, lle bues i a Twm Morys yn diwtoriaid ar griw gwych o gyw-gynganeddwyr yn ddiweddar. Hynny i gyd a llawer mwy, yn cynnwys pos newydd gan Gruffudd Antur, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a holl newyddion y mis. – See more at: http://www.eurig.cymru/blog#sthash.SBJfYNzU.dpuf

1. Pwnco: eitem arbennig o Dŷ Newydd, Llanystumdwy, yng nghwmni Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a chyn-drefnydd prosiect y Bardd Plant, Leusa Llywelyn 2. 23.56 Pos rhif 3 gan Gruffudd a’i Ymennydd Miniog 3. 27.17 Yr Orffwysfa: cerdd ‘Llif Coch Awst’ gan Hywel Griffiths, sy ar fin cyhoeddi cyfrol newydd o’r un enw 4. 31.59 Dyddiadur sain o’r gorffwylldy cynganeddol a elwir Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd 5. 44.32 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 55.57 Y Newyddion Heddiw – See more at: http://www.eurig.cymru/blog#sthash.SBJfYNzU.dpuf