Will Yr Amgueddfa be another typical S4C drama, or will its plot offer viewers something new? Gareth Smith provides a bilingual review of the new four-part series starring Nia Roberts.
“This is almost a cliché, isn’t it?” is a dangerous line to utter in a drama like Yr Amgueddfa. The central storyline — of a professional middle-aged woman watching her life unravel after an impulsive decision in the first episode — mirrors the recently concluded Bregus on the same channel. The S4C thriller factory is so busy at the moment that there are bound to be some cheap knockoffs produced and the general outline of this new show initially appears a little derivative. Luckily, despite the familiarity of certain characters and plotlines, Yr Amgueddfa is not just a collection of clichés.
The four-part drama focuses on Della Howells (Nia Roberts), the recently appointed Director General of the National Museum of Wales. Following a suitably intriguing opening scene in which she appears to be held hostage, the narrative flashes back to the tense party that marks her predecessor’s farewell at the titular museum. The show makes excellent use of the building’s architecture, capturing its splendor with a range of lighting and angles. It’s unclear yet whether the museum will become a specific part of the show’s overall plot, or if it’s mainly providing a pretty backdrop to other storylines, but it is great to see it showcased, nonetheless. The appearance of its holdings also acts as a form of advertising, allowing items to be highlighted and, occasionally, worked into the dialogue.
It is very easy for the protagonists of TV thrillers to seem functional and passive, constantly reacting to more interesting characters while the plot pinballs them around, but Nia Roberts’ performance is unsurprisingly excellent. She sidesteps the cliches of the genre with ease and ensures that Della remains complex and realistic. Her relationship with Caleb (Steffan Cennydd) looks set to dominate the show and Cennydd pitches the ambiguity of his character exactly right, neither too charming nor creepy. Della’s family seem a little less defined at first but her husband (Steffan Rhodri) and daughter (Mared Jarman) clearly have subplots brewing.
There is little sense of a concrete threat in the first episode, but instead a general sense of mystery which remains compelling primarily because it is so nebulous. This strategy keeps things interesting for the time being, allowing for establishing characters to take precedence over a complicated plot, but mystery for its own sake will get boring very quickly. Hopefully the subsequent episodes get the plot moving and we’ll be given some indication of what exactly Caleb is up to.
It is precisely this potential that makes Yr Amgueddfa more exciting than its contemporaries. There have been so many recent psychological/domestic thrillers that they often blur into a shapeless mass of the same conventions and clichés, but this drama offers a slightly different take on the expected formula. The show briefly explores the politics of history and the significance of art in a manner that ties it effectively to the museum setting and suggests it’s going to head in some unusual directions. While suffering from S4C thriller fatigue is completely understandable at this point, it might still be worth paying Yr Amgueddfa a visit.
*
Mae’r llinell “Mae hwn bron yn ystrydeb, onid ydyw?” yn un beryglus i glywed mewn drama fel Yr Amgueddfa. Mae’r stori ganolog — menyw ganol-oed broffesiynol sy’n colli bywyd hyfryd ar ôl penderfyniad byrbwyll yn y bennod gyntaf — yn adlewyrchu’r ddrama Bregus a ddaeth i ben ar yr un sianel wythnosau yn ôl. Mae S4C fel ffatri ddrama gyffro yn ddiweddar ac mae’n cynhyrchu shwd gymaint o raglenni tebyg mae siŵr o fod rhai yn ddiffygiol. Ond, er bod elfennau cyfarwydd iawn gyda’r cymeriadau a’r naratif, mae Yr Amgueddfa dal yn werth ymweld.
O fewn pedwar rhan, mae’r ddrama yn canolbwyntio ar Della Howells (Nia Roberts), y Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae’r bennod gyntaf yn agos efo digon o ddirgel — gyda Della wedi’i herwgipio ac yn pledio am ei fywyd — cyn mae’r naratif yn ol-fllachio i’r parti sy’n dathlu ei swydd newydd. Mae’r Amgueddfa go iawn yn edrych yn rhagorol trwy ddefnydd goleuadau ac onglau i ddangos pensaernïaeth yr adeilad. Nid yw’n amlwg eto os yw’r amgueddfa yn rhan benodol o’r brif stori neu os yw’n darparu cefndir prydferth, ond mae’n wych i weld e beth bynnag. Mae’r sioe hefyd yn hysbysebu’r amgueddfa trwy roi cyfleu i arddangos a thrafod y casgliadau amrywiol.
Mae’n hawdd iawn i brif gymeriadau mewn dramâu fel hyn ymddangos yn swyddogaethol a goddefol, yn ymateb yn gyson i gymeriadau mwy diddorol tra bod y plot yn eu taflu o gwmpas, ond nid yw’n syndod bod Nia Roberts yn rhagorol fel Della. Mae hi’n osgoi ystrydebau’r ffurf heb ymdrech ac yn sicrhau bod Della yn parhau i fod yn gymhleth ac yn gredadwy. Mae ei pherthynas gyda Caleb (Steffan Cenydd) yn afaelgar ac mae perfformiad Cenydd yn hollol gywir — heb fod yn rhy swynol neu iasol. Nid yw’n amlwg eto sut fydd teulu Della yn ymateb i hwn, ond mae ei ŵr (Steffan Rhodri) a’i merch (Mared Jarman) yn brysur gyda storiâu ei hun.
Nid oes fygythiad pendant yn y bennod gyntaf, ond ymdeimlad cyffredinol o ddirgelwch sy’n parhau i fod yn gymhellol yn bennaf oherwydd ei fod mor amwys. Mae’r strategaeth hon yn cadw pethau’n ddiddorol trwy gydol y bennod gyntaf, er mwyn blaenora’r cymeriadau dros stori, ond bydd dirgelwch annelwig yn diflasu’n gyflym iawn. Mae rhaid gobeithio bydd y penodau dilynol yn codi cyflymder y stori a dechrau rhoi gwybod beth yn gwmws mae Caleb yn cynllunio.
Mae’r potensial sydd gan Yr Amgueddfa yn gwneud e’n mwy diddorol na llawer o’i gyfoeswyr. Mae gormod o ddramâu diweddar yn amlwg o’r cychwyn, felly mae’n braf gwylio rhywbeth all fynd mewn gyfeiriadau gwahanol. Mae’r bennod gyntaf yn trafod y wleidyddiaeth o hanes a chelf mewn ffurf sy’n cysylltu â sefydliad y ddrama yn effeithiol. Gyda chasgliad diddorol o gymeriadau i arddangos dros y pedair wythnos nesaf, gawn weld os bydd Yr Amgueddfa yn edrych mor drawiadol ar ôl arolygiad agos.
Yr Amgueddfa is on S4C at 9pm on Sundays.
Gareth Smith is a regular Wales Arts Review contributor.