Wales Arts Review proudly brings you Alys Conran‘s blog on her experiences accompanying the seventeen members of Inuit Tapiriit Kanatami’s Language Committee in the Arctic as they embark on an educational visit to the UK to learn about language regeneration and revitalisation. The committee is currently engaged in a process to consolidate all of the current written forms of the Inuit language into one standard version.
Diwrnod 1
Wythnos yma, dwi’n cael y fraint aruthrol o fod yn awdur preswyl gyda phwyllgor o bobl Inuit sy’n ymweld â Chymru er mwyn archwilio ffyrdd o hybu a meithrin eu hiaith. Heddiw mi deithiais i o Fethesda i Lundain er mwyn cael cyfarfod y grŵp, a mynychu derbynfa arbennig ar eu cyfer yn Canada House yn Llundain.
Mae’n gywilydd arna i i orfod cyfaddef nad oeddwn i’n gwybod nesa i ddim am ddiwylliant na thafodieithoedd amryw’r Inuit, ac wedi fy nhrwytho fel pawb arall mewn rhyw ddelwedd gyntefig iawn o’r bobl hyn, yn hela morfilod gyda’u bwya mawrion a’u kayaks o groen ar dirweddau oer, oer yr Arctig. Felly mae darganfod fy hun yn cael gwahoddiad i ymuno gyda SnapChat am y tro gyntaf gan fy ffrind newydd i Maatalii yn chwalu pob rhagfarn.
Mae archwiliad cyflym ar y we yn dweud wrtha i bod rhyw 150,000 o bobl Inuit yn byw heddiw rhwng Canada, Siberia, Yr Las Ynys, ac Alasca, a’u bod rhyngddynt yn siarad cannoedd o ieithoedd neu dafodieithoedd bychain, enfawr. Yr iaith Inuktitut, a’i amryw dafodieithoedd, sydd wedi’u sbarduno nhw i ddod i Gymru, er mwyn trafod ac archwilio ffyrdd o’u hybu, eu cadw, eu hymochel.
Mae’r grŵp yn dod o bob rhan o diriogaethau’r gogledd o Ganada, ac yn siarad yr holl dafodieithoedd o Inuktitut sydd yno, sef deuddeg, ac yn medru naw gwahanol ffurf o iaith ysgrifenedig, rhai yn sillafu mewn ‘syllabics’ a rhai yn yr wyddor Rufeinig (fel ni). Trafferthion felly wrth ddeall ei gilydd ar bapur, er bod y criw yma yn deall ei gilydd ar lafar i gyd yn reit dda, a dwi wrth fy modd gyda rhythm arbennig eu hiaith wrth i ni gerdded o gwmpas Llundain yn y glaw man yma.
Mae’r daith wedi ei gefnogi gan y Princes Charities a’r British Council, ac yn cychwyn felly gyda naws tu hwnt o frenhinol, ac ymweliad a’r ‘Chapel Royal’, lle mae’r criw yn cael cyflwyniad chwim iawn i hanes y DU, brenin fesul brenin. Mae’n hanes sy’n teimlo’n estron iawn i mi fel Cymraes, a dwi’n pendroni sut mae’n teimlo i’r Inuit, ond, diolch byth, maen nhw wedi mopio’n lan ar bopeth.
Fy nghyfle i i fopio sydd wedyn, wrth ddod i nabod rhai o’r grŵp, gyda hanesion am fywydau mor brin ac mor arbennig, yn y gaeaf cyson, lle mae hi mor oer does modd cyffwrdd dim tu allan rhag cael llosg ia ar unwaith. ‘Mae’n broblem,’ meddai Harry ‘pan ti angen trwsio dy Snowmobile’. Mae o’n cerdded trwy Lundain heb got heddiw. Mae’r criw’n gwisgo cyfuniad o ddillad gorllewinol (os dyna yw’r gair iawn, awydd dweud deheuol!) ac ambell i ddilledyn neu fwclis traddodiadol. Wedi dweud hynny dwi’n cael ysgytwad go dda i fy syniadau i o beth yw traddodiad pan, yn Canada House mae arddangosfa o gelf Inuit yn cynnwys bicini a sgidiau stilletoe o groen moelrhon. ‘O ia,’ medda Maatalii, ‘mae gen i rai o’r rheina.’
Mae’r noson yn Canada House yn dderbynfa go llewyrchus llawn pobl bwysig gyda chanapés, gwin, a sgwrs gan Uwch Gomisiynydd Canada, ond mae hefyd yn cynnwys perfformiad gan rai o’r grwp, o ganu gwddf Inuit. Dau ohonynt yn sefyll law yn llaw canu yn erbyn ei gilydd ynghyd a drwm arbennig, mewn math o frwydr anhygoel, ffyrnig ac urddasol. A dyna’r argraff dwi wedi ei gael hyd hyn. Penderfynol, addfwyn ac urddasol. Dwi’n cofio clywed yr awdur o wlad yr ia ‘SjØn’ yn dweud na ddylem ni gyfri maint iaith yn ôl faint o bobl sy’n ei siarad ond yn ôl faint mae’n medru ei ddweud. Dwi’n amau’n wir fod yr iaith Inuktitut yn dal llond byd, na, llond bydysawd.
Heddiw mwy nag erioed, mae perygl ofnadwy ei golli, a cholli diwylliant a doethineb y bobl hynod hyn. ‘Roeddem ni’n gwybod cyn neb bod y newid hinsawdd yma’n digwydd’ medda Harry ‘Pan ti at dy bengliniau mewn dŵr yng nghanol llyn eira, a tydi hynny erioed wedi digwydd o’r blaen, ti’n gwybod. Mae hyd yn oed helwyr profiadol yn marw’. Mae tipyn o rannu pryderon felly, am Trump a’i anghrediniaeth o tuag at newid hinsawdd. Dwi’n cael fy hun yn meddwl bod clywed llais y bobl hyn, a bod eu hiaith yn goresgyn, yn hanfodol i ni i gyd.
Mae’r angen i safoni’r iaith ysgrifenedig yn rhannol yn angen, medden nhw, i ‘allu uno, a chael llais gyda’n gilydd.’ Brwydr sydd am fwy nag iaith yn unig yw hon. Brwydr dros ddyfodol.
‘Tydi o ddim yn hawdd,’ medda Beverley, sy’n siarad tafodiaith hynod o brin ‘Da ni’n brwydro gyda’n gilydd weithia tros ba ffordd yw’r ffordd gywir. Ac mae’n rhaid i ni i gyd sefyll dros ein tafodieithoedd a’n pobl. Weithia mae pethe’n mynd ‘chydig yn rhemp, ond da ni ar y ffordd bellach.’
Ac eto, argraff o bobl mor unedig dwi’n ei gael, sy’n chwerthin gyda’i gilydd, yn rhannu jôc a llawer iawn o gariad.
‘Mae’r holl eiriau sydd i wneud efo’r tir yr un peth, enwau anifeiliaid, tir, tywydd, yn debyg i ni i gyd,’ medd un, ac efallai mae dyna yw’r peth pwysicaf? Ein tir, ein hinsawdd, ein daear.
Ar ddiwedd y noson mae Albert Mangilaluk Elias yn canu can mor hudolus o hyfryd, mor llawn awen a llawn cysur, mae nghalon i’n llawn. Dwi’n diolch iddo.
‘Ia,’ medda fo ‘Can o gysur ydi o. Pan mae hi’n dywyll am fisoedd yn y gaeaf, mae’n rhaid i ni gynnig rhyw fath o therapi hen ffasiwn i’n gilydd, rhaid codi calon, does dim modd peidio â bod yn bositif.’
Diwrnod 2
Diddorol ydi gweld dy gynefin trwy lygaid pobl o ddiwylliant gwahanol.
Yng Nghanolfan Bedwyr heddiw, yn fy nhre enedigol i, y stop cyntaf ar fy nhaith trwy Gymru gyda Phwyllgor Iaith yr Inuit, meddwl am botensial technoleg i gefnogi’n diwylliannau a’n ieithoedd ydan ni.
‘Mewn rhannau o Nunivut,’ medda Robbie, un o’r pwyllgor, ‘mae saithdeg y cant o’r boblogaeth o dan 30 mlwydd oed, ac maen nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol drwy’r adeg. Ma’n rhaid i ni gadw fyny efo nhw!’
Mae Maatalii, un arall o’r pwyllgor, yn bennaeth ar ‘Inuit Nunangat’ sef mudiad ieuenctid yr Inuit yng Nghanada, a dwi’n gweld bod cyfrif twitter y mudiad hwnnw’n brysur iawn. Mae’r bobl ifanc hyn, hyd yn oed yn yr ardaloedd lle mae’r tafodieithoedd yn cael eu cyfleu trwy syllabics, yn barod wedi mabwysiadu’r wyddor Rufeinig gan mai dyna yw’r ffordd rwyddaf o deipio ar gyfrifiadur o Ganada. Os na allent deipio’r Inuktitut yn rhwydd, maen nhw’n troi i’r Saesneg. A dyma yw’r tanwydd sydd wedi sbarduno, fwy na dim efallai, y brys newydd i gytuno gwyddor Inuktiut unedig, a system sillafu sy’n defnyddio’r wyddor Rufeinig, wedi ei gytuno gan bob un o’r cymunedau hyn.
Er bod aelodau’r grŵp yn gyfforddus iawn wrth ddefnyddio Smartphone a ballu, mae nifer o’r grŵp mewn oed, a phan, yng Nghanolfan Bedwyr ddaw’r cwestiwn anodd ‘Oes unrhyw un ohonoch chi’n arbenigwyr gyda thechnoleg o gwbl?’ ysgwyd pen wna’r grŵp yn anffodus.
‘Ond da ni’n wirioneddol ysu am feddalwedd all wneud ein gwaith yn haws,’ medda Robbie, gan adlewyrchu teimladau pawb.
Ac mae gobaith, yma’n Canolfan Bedwyr, lle mae’r tîm unai’n gyfarwydd â, neu wedi creu, meddalwedd amryw i wneud y gwaith o drosi rhwng un iaith a’r llall yn fwy rhwydd. Gobeithio felly, y bydd modd canfod rhaglen all helpu’r Inuit i drosi rhwng Syllabic a’r wyddor Rufeinig ar gyffyrddiad botwm. Hefyd, mae’r criw’n gweld potensial mewn ffyrdd newydd cyffroes o dorfoli (crowdsourcing) er mwyn casglu geiriau.
‘Cadwch mewn cysylltiad,’ meddai’r Athro Jerry Hunter, ‘Da ni’n cydweithio gyda nifer o ddiwylliannau ar draws y byd, a da ni’n awyddus eich cefnogi chi a’ch iaith mewn unrhyw ffordd.’
Ac mae’n amlwg bod digonedd o botensial mewn cydweithio.
Mae’n od, tydw i erioed wedi meddwl rhyw lawer am y broses o safoni iaith, a heb fod yn or gyfforddus weithia gyda’r holl safoni sydd yn digwydd gyda’r Gymraeg, yn pryderu ein bod yn colli neu’n tanbrisio’n tafodieithoedd yn y broses efallai. Ond wrth glywed arbenigwyr Canolfan Bedwyr yn siarad am yr holl waith sydd yn mynd i mewn i greu termau addas ar gyfer pynciau yn yr ysgol a’r brifysgol, dwi’n gweld, efallai am y tro cyntaf, faint ydan ni oll mewn dyled i bobl sydd yn gweithio’n ddiwyd i geisio cytuno ar safonau iaith er mwyn i ni allu rhoi iaith ar waith yn broffesiynol, yn academaidd ac yn wleidyddol. Ar y foment, i’r Inuit yng Nghanada, mae’n anodd iawn cynnal unrhyw fath o system o asesu, sy’n gallu cael ei gysoni ar draws y tafodieithoedd er enghraifft, sy’n golygu nad oes modd effeithlon o asesu gwaith plant yn yr ysgol. Does modd chwaith i’r holl gymunedau greu dogfennaeth sy’n amddiffyn eu hawliau unedig, neu’n cyfathrebu eu pryderon a’u gobeithion fel cenedl unedig.
‘Da ni ddim yn dweud safoni,’ medda Peter ‘Uno da ni’n ei ddeud.’
A dwi’n gweld gwerth ein Cymraeg ysgrifenedig, sydd wedi yn y gorffennol wedi bod ychydig yn fwrn arna i, ond sydd, dwi’n gweld yn rhodd werthfawr, modd i ni gael llais unedig fel Cymry Cymraeg, modd i ni gynnal system addysg, gweithleoedd, a’r holl systemau eraill sy’n angenrheidiol ar gyfer cymdeithas sifil.
Y peth pwysig, yn ôl nifer o’r grŵp, ydi bod pawb yn deall bod tafodiaith yn gywir, bod pob un o’r ffurfiau o ysgrifennu a siarad yn gywir, a bod pob caniatâd iddyn nhw hefyd ffynnu, ochr yn ochr â’r system newydd. Felly, yng nghanolfan Bedwyr, mae cwestiwn yn dod, sydd efallai yn un sy’n bwysig i ni fel Cymry hefyd ei bendroni:
‘Un o’r pethau da ni wedi ei holi fel pwyllgor,’ medda Jeannie, sydd yn dod o ardal lle mae syllabics yn cael ei ddefnyddio, ‘ydi os oes modd, yn ogystal â’r broses yma o safoni, o annog ysgolion i ddysgu am y tafodieithoedd.’
A dwi’n cael fy hun yn meddwl am fy nheulu priodasol i o Gaernarfon, ac fel mae’r Cofi, fel llawer o gymunedau eraill yn aml yn teimlo nad ydi’r Gymraeg safonol, ysgrifenedig, yn adlewyrchu eu ffordd nhw o siarad, ac yn meddwl ia, wrth ochr a’r ‘safoni’ ieithyddol yma, mae lle i ni hefyd addysgu am dafodiaith yn ein hysgolion, fel rhywbeth gwerthfawr, pwysig.
O ddiddordeb hefyd i Cofi’s Caernarfon gyda llaw: mae’r Inuit yn gallu ynganu ‘Castell Caernarfon’ yn berffaith. Gan fod yr Inuktitut hefyd yn cynnwys, am unwaith, y sŵn ‘LL’.
‘Castell Caernarfon,’ medda Monica, yn gwbl rugl ‘Castell Caernarfon.’
‘These stone walls must make it very cold,’ medda Harry, wrth i ni gerdded o gwmpas y walia. ‘Mae pobl o dramor wastad yn gofyn i mi os ydan ni’n dal i fyw mewn iglw,’ medda fo ‘ac os oes ‘na wres canolog neu ddim. Dwi’n deutha nhw, os oes gen ti wres canolog mewn iglw, does gen ti ddim iglw.’
Pwynt.
Diwrnod 3
Mae’r grŵp yn cael blas ar ddysgu Cymraeg bellach, ac maen nhw’n barod wedi dysgu’r gair cyntaf mae pawb yn dueddol o feistroli ar gyrraedd Cymru. Ac na, nid ‘croeso’ yw’r gair, ond ARAF! Maen nhw’n gallu dweud ‘Allanfa Dân’ yn reit dda hefyd. Mwy anodd yw ynganu bendith i Prince Charles yn Gymraeg (mae’r grŵp yn ei gyfarfod Dydd Gwener). Od ydi bywyd weithiau, doeddwn i heb feddwl y byswn i byth yn cyfieithu bendith Inuit ar gyfer Prince Charles i’r Gymraeg, nac yn gorfod ei adrodd pymtheg gwaith er mwyn arddangos sut i’w ynganu. I gloriannu hyn, ga i ddweud mod i hefyd wedi canu Hen Wlad fy Nhadau yn ei gyfanrwydd i’r grŵp yng nghwmni Cyril o’r Llyfrgell Gen. Diolch Cyril.
Ac mae’r ‘Gwlad! Gwlad!’ ar ei orau heddiw wrth i ni yrru i lawr trwy’r Gogledd i Aberystwyth. Mae’r haul yn tywynnu, brigau’r coed yn glir yn erbyn yr awyr persain, a’r caeau gwyrdd a thai cerrig yn debyg, medda un o’r criw, i gerdyn Nadolig. Yndi, mae Cymru’n hardd. Mae Cymru’n ofnadwy o hardd trwy lygaid yr ymwelwyr, gyda phob golygfa newydd yn achosi bloedd o lawenhad yn y bws. I’r rhai o’r criw sy’n byw uwch cylch yr Arctig, mae’n braf wrth gwrs cael gweld golau’r haul am unwaith yn y gaeaf. Dwi’n trio dysgu ‘chydig o Inuktut hefyd, ac yn dweud ‘Alianalirmalli!’ sef dwi wrth fy modd!
Am swyddfa odidog sydd gan y Cyngor Llyfrau hefyd, yn edrych tros Aberystwyth fel rhyw fath o frenin. Gwell na chastell. Heddiw bûm yn ymweld â nhw, a’r Ganolfan Geltaidd (ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru) ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n wych gweld bod Cymru’n gallu arddangos diwylliant cenedlaethol fel hyn i ymwelwyr. Mae’r holl fentrau hyn yn freuddwydion i’r Inuit, sydd yn ceisio creu adnoddau a chanolfannau tebyg.
‘Does gennym ni nunlle fel hyn,’ meddai Rita wrtha i ar ôl yr ymweliad a’r llyfrgell ‘Nunlle canolog. Mae ‘na lefydd sy’n storio hen bethau fel celf neu wrthrychau’n saff, ond nid ein llefydd ni ydyn nhw, nid ni sy’n berchen arnyn nhw.’
‘What do you think the Inuit might learn from the Welsh experience?’ mae gohebydd y BBC yn ei ofyn.
‘They are very bold. And we need also to be bold,’ medda hi.
Tydi hynny ddim yn rhywbeth ‘da ni’n ei glywed yn aml iawn, nac ydi? Tydi ‘bold’ ddim yn un o rinweddau ystrydebol y Cymry efallai. Ond yndi, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn edrych yn ofnadwy o eofn heddiw. Ac ydi mae’n mentrau diwylliannol ac ieithyddol yn haeddu’r clod.
O glywed hanesion am sut y sefydlwyd pob un o’r mudiadau a mentrau hyn, mae cymaint o barch at y bobl wnaeth y gwaith, eu brwydrau hir gwleidyddol a’u gwaith diflin a alluogodd i’n diwylliant cael y fath adnoddau tu cefn iddi. Pobl debyg i’r pwyllgor Inuit yma, dwi’n meddwl, sy’n gweithio’n ddiwyd tros eu hiaith yn erbyn cymaint o rwystrau. Mae’n bosib mae o ymysg pwyllgor fel hyn y bydd Inuit y dyfodol yn ffindio eu harwyr diwylliannol nhw, fel y mae sefydlwyr S4C er enghraifft yn adnabyddus yng Nghymru, er dwi’n sicr nad ydi’r fath syniad yn croesi meddwl neb yn y grŵp.
Ac mae’r rhwystrau’n enfawr. Fel yng Nghymru, allech chi fyth wahanu’r brwydrau economaidd a gwleidyddol o’r brwydrau diwylliannol ac ieithyddol.
‘Mae hyd yn oed y cyflenwad fwyd yn ansicr i saith deg y cant o bobl Nunavut,’ mae Maatalii’n esbonio heno. Ac hynny er mae rhai o ddinasyddion Canada yw’r rhain.
Dim ond un aelod seneddol sydd gan yr holl ardal, er ei bod yn cynrychioli 25% o diriogaeth Canada. Maen nhw’n cael trafferth cael llais wleidyddol yn rhyngwladol hefyd, am bethau fel newid hinsawdd, er bod y pwnc mor bwysig i’w bywydau. Fel dywedodd Maatalii ‘Os oes gennych chi ffyrdd o rew, mae’n wirioneddol o ots fawr os nad ydyn nhw wedi rhewi bellach.’ Rhwng yr holl anawsterau, mae’n gallu bod yn anodd gweithio ar hybu diwylliant ac iaith.
Hefyd mae graddfa pob un o’n adnoddau ieithyddol ni yn ymddangos yn fawr iawn i’r Inuit, gan bod y niferoedd sy’n siarad eu hiaith yn llai, er bod ei ganranau’n aml destyn edmygedd i ni mewn rhai ardaloedd. Yn ardal Rita er enghraifft mae bron i gant y cant o bobl yn siarad Inuktut.
Dwi’n rhyfeddu bod y geiriaduron, termiaduron, yr unedau cyfieithu llywodraethol, yr adnoddau cyfrifiadurol, y gefnogaeth i gyhoeddi, oll yn gymharol ifanc yng Nghymru, er mor sefydledig yw’r argraff. Er enghraifft, mor ddiweddar â’r 60au, dim ond llond llaw o lyfrau Cymraeg i blant oedd wedi eu cyhoeddi fel mae’r Cyngor Llyfrau’n esbonio i’r criw.
Wrth sôn am lyfrau, mae gwahaniaethau amlwg rhwng diwylliannau’r Inuit a’r Cymry. Am un peth, yr hanes llenyddol. Tra bod y Cymry wedi rhoi beiro (neu bluen) i bapur neu lechen ers canrifoedd, mae diwylliant yr Inuit wedi pwysleisio hanesion, a chaneuon llafar, un genhedlaeth yn dysgu’r llall.
‘Doedd dim angen llyfra arnom ni,’ medda Beverley ‘Roedd pob dim yn y galon a’r meddwl. Tydi pobl methu dysgu dim byd heddiw heb ei sgwennu i lawr. Dwi wedi trio dysgu pobl heb feiro a phapur, ond tydi hynny ddim yn gweithio bellach.’
Mae’r sgwrs yn f’atgoffa o’r pryder yn ddiweddar am effaith technoleg ar feddyliau pobl ifanc. Er mor falch dwi’n teimlo o’r gefnogaeth i lyfrau Cymraeg, a’r diwylliant cyfoethog o ysgrifennu a darllen dwi’n cael bod yn rhan ohoni, mae’r Inuit yn f’atgoffa o rywbeth sylfaenol: boed yn bapur neu’n dechnoleg, does dim yn cymryd lle cof a cheg. Fel y dwedodd Sylvia o Ganolfan Bedwyr ddoe, mae’r adnoddau ieithyddol, y papur, y geiriaduron, y cyfieithwyr, y termiaduron, yn gallu bod yn olwynion cefn i iaith. Yr olwynion ffrynt yw’r bobl sy’n ei defnyddio pob dydd yn y gwaith ac adref, sy’n magu plant trwy ei chyfrwng, sy’n caru, sy’n ffraeo, sy’n jocio, sy’n ei ail-ddyfeisio’n ddyddiol er mwyn ateb pob gofyn newydd. Sy’n ei pherchnogi.

Diwrnod 4
(Sgroliwch i lawr i gychwyn o’r cychwyn)
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod ein prif weinidog ni heddiw, Carwyn Jones, sy’n dangos lefel ac arwyddocâd y daith yma. Mae hwn yn uchafbwynt, er y bydden nhw hefyd yn mynd ymlaen i gyfarfod Prince Charles fory.
Ar y ffordd o Aber i Gaerdydd ar y bws, y dasg bwysig i mi oedd rhoi gwers iaith i Jeela, sydd wedi penderfynu mynd ati o ddifrif i ddysgu Cymraeg.
‘Os dwi’n dysgu Cymraeg mi fydd hynny’n dangos i’n pobl ifanc sy’n meddwl ei fod yn rhy anodd meistroli iaith newydd, bod modd dysgu Inuktut hefyd,’ medda hi. Dyna ni ta, un arall tuag at nod y cynulliad o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg!
Dwi’n cofio mor gyffroes oedd y noson pan bleidleisiodd Cymru o blaid cael cynulliad, a dwi’n sylwi’n sydyn, wrth fynd trwy’r archwiliadau diogelwch ar y ffordd i mewn i’r Senedd, mae dyma’r tro cyntaf i mi ymweld â’r lle’n iawn, na gweld prif weinidog yn y croen!
‘Ti ugain mlynedd yn hwyr,’ medda un o’r staff gyda gwên wrth i mi ddweud hyn.
‘Ha!’ medda un o bwyllgor yr Inuit ‘Mi gymrodd ymweliad yr Inuit i chdi gael dy adael i fewn!’
Ar daith dywys i siambr y Senedd, da ni’n trafod manteision cael siambr gron, a’r gwahaniaeth a thebygrwydd rhwng cynulliad Nunivut a’n cynulliad ni. Wedyn cawn ein tywys i’r ystafell gyfarfod fawr, lle mae te a choffi, ac yn lle, ychydig funudau’n ddiweddarach, daw Carwyn Jones i gymryd ei sedd wrth y bwrdd gyda’r pwyllgor.
Mae o, wrth gwrs, yn wybodus am daith yr iaith trwy’r ganrif ddiwethaf, ac yn rhoi hanes cyflym i’r grŵp.
Mae’r pwyllgor, dwi’n meddwl, yn synnu at nifer o bethau. Yn gyntaf mor gyfforddus ydan ni i ddweud mai cenedl ydym ni.
‘Be fyddech chi’n galw Cymru?’ gofynna Harry.
‘Cenedl,’ meddai’n prif weinidog Llafur ni, yn blaen.
Mae’n ymhelaethu. ‘Y Deyrnas Unedig yw un o’r unig ystadau mae’n debyg lle mae gwahaniaeth rhwng yr ystâd a’r gwledydd oddi fewn iddi. Os ofynnwch chi i’r rhan fwyaf o Gymru beth yw eu cenedligrwydd, mi ddwedan nhw mae Cymry ydyn nhw, a tydi hynny ddim o angenrheidrwydd yn gwrthddweud y syniad eu bod nhw hefyd yn rhan o deulu mwy estynedig y Deyrnas Unedig.’
‘Ydi cenedl y Cymry’n berchen ar ei hadnoddau ei hun?’ gofynna Harry.
‘Da ni’n allforio llawer o bŵer,’ meddai’r prif weinidog ‘Mae dŵr yn un adnodd gwerthfawr sydd gennym ni, ac fe gawn ni gontrol o ddŵr o 2018.’
Mae’n fy nharo i, o’i weld gyda’r Inuit, bod ein system wleidyddol bellach mor hyderus, mor llawn awdurdod. Mor bell ydan ni wedi dod gyfeillion!
Mae hefyd yn trafod ein hawliau ieithyddol, a’r ffaith bod gennym hawl i wasanaeth Gymraeg yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r prif weinidog digon bodlon i wario dwbl yr amser a glustnodwyd yn wreiddiol gyda’r pwyllgor, ac yn anwybyddu arwyddion amlwg fod ei staff ‘chydig yn nerfus ei fod yn hwyr bellach am ei apwyntiad nesaf.
‘Mae gennym ni siaradwyr Cymraeg sydd hefyd yn Fwslemiaid, mae gennym gymunedau Bangladeshi sy’n gyrru eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg,’ meddai ‘Mae iaith yn rhywbeth a ddylai fod yn agored i bawb. Cewch chi ddim mwy nag un grefydd, ond tydi ieithoedd ddim yn ‘exclusive’ yn y ffordd yna.’
‘Mae’n wych bod gennych chi blant Cymraeg eu hiaith o aelwydydd di-gymraeg,’ meddai Beverley, ‘Mae hynny’n ysbrydoliaeth i ni.’
O’r diwedd, mae’n rhaid iddo ufuddhau i’r amserlen brysur, ac ymadael.
‘That was such an honour,’ medda Harry wedi’r cyfarfod.
Oes, mae parch yng Nghymru at yr ymwelwyr hyn, eu diwylliant a’u hiaith.
Yn swyddfa’r Comisiynydd Iaith, cwestiwn diddorol am y gymhariaeth rhwng Quebec a Chymru. Mae rhai o’r pwyllgor yn anghyfforddus efo’r math o blismona o’r defnydd o Ffrangeg sy’n digwydd yn Quebec gan fod Inuktut yn brwydro i gael cydnabyddiaeth fel y Ffrangeg a’r Saesneg yn Quebec. Cwestiwn felly am beth yw’r ffyrdd gorau, ym marn y Comisiynydd, o ddelio efo deddf iaith ar lawr gwlad.
‘Does dim diddordeb gen i mewn plismona,’ meddai Meri Huws y Comisiynydd Iaith ‘Beth sy’n fy niddori i ydi annog pobl i ddatblygu gwlad ddwyieithog am eu bod nhw wedi eu perswadio bod hynny’n syniad da. ’
Yn drist iawn mae fy nhaith i gyda’r Inuit yn dod i ben heddiw, er mod i’n gobeithio cael sgwrs gyda rhai o’r grŵp am sut aiff yr ymweliad i Lwynywerod fory.
Dwi’n trio dweud rhai geiriau o ffarwel, a diolch am brofiad wirioneddol fythgofiadwy. Ond mae’r geiriau’n tagu braidd yn fy ngwddw, o flinder ac emosiwn. Doedd yr Inuit, yn ôl Jeela, ddim yn arfer dweud ‘helo’ na ‘ta ta’. Mond gwenu wrth fynd neu ddod. Ac yn y diwedd da ni’n ffarwelio ar dermau addas iawn felly. Dwi’n rhoi rhai copïau o fy nofel, gyda neges fach o gofion cynnes ym mhob un, ac maen nhw’n rhoi Te Inuit a rhoddion eraill i mi, a fy nghofleidio i’n annwyl ofnadwy pob un. Cusan Inuit i goroni’r peth – nid rwbio trwynau fel ein hen syniad ni o’u cusan, ond cusan lle mae un person yn rhoi trwyn yn erbyn croen boch y llall ac yn arogli’n galed. Sws sy’n gallu amrywio cymaint â’n swsys ni, yn ôl Jeela, o rywbeth cyffelyb a sws glec fach, i sws fawr cwpl sy’n canlyn. Sws felly sy’n iaith arall eto, ond iaith sydd, y tro yma, heb eiria.