Clera Mawrth

Poetry Podcast | Clera Mawrth

Bobl Cymru a’r byd – wele bodlediad Clera mis Mawrth! Fel arfer, mae’r podlediad ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Mae’r rhifyn hwn yn un swmpus iawn – Pwnco arbennig o Ŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd, cerdd newydd sbon gan Mihangel Morgan, sgwrs â dau o olygyddion cylchgrawn y Stamp, hanes Slam Castell Caerffili … hynny i gyd a’r holl eitemau arferol hefyd – yn cynnwys pos barddol newydd sbon gan Gruffudd Antur. Mwynhewch! – See more at: http://www.eurig.cymru/blog#sthash.OLGxCxiI.dpuf

1. Pwnco: trafodaeth arbennig am brofi barddoniaeth a recordiwyd yn yr Ŵyl Farddoniaeth yn Nhŷ Newydd, gyda chyfraniadau gan Ifor ap Glyn, Karen Owen, Gruffudd Antur, Elis Dafydd, Marged Tudur a Leusa Llewelyn
2. 22.15 Yr Orffwysfa: cerdd ‘Peintio Sied’ gan Mihangel Morgan
3. 27.10 Sgwrs â Miram Elin Jones a Iestyn Tyne, dau o olygyddion y Stamp
4. 37.40 Holl fwrlwm slam arbennig i ysgolion a gynhaliwyd yng nghastell Caerffili
5. 45.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
6. 57.05 Pryd o Dafod: y gynghanedd draws fantach
7. 01.03.15 Gruffudd a’i Ymennydd Miniog: pos barddol (ateb y mis nesaf)
8. 01.06.00 Y Newyddion Heddiw
– See more at: http://www.eurig.cymru/blog#sthash.OLGxCxiI.dpuf

clera mawrth