4Pi

4Pi Dance Dome Travels to Hong Kong

The award winning 4Pi Productions and their innovative Dance Dome Platform have been selected to take part in the 30th anniversary celebrations of the Hong Kong Cultural Centre alongside such respected UK cultural powerhouses as the London Symphony Orchestra and the internationally respected Choreographer Akram Khan.

The Dance Dome is installed at the Hong Kong Piazza until the 12th of October and is already wowing audiences with three of its award winning immersive dance films produced by 4Pi Productions in collaboration with Coreo Cymru and various Wales based choreographers.

The Dance Dome is being presented as part of the 30th anniversary celebrations of the Hong Kong Cultural Centre and whilst it sits alongside the London Symphony Orchestra and Akram Khan in terms of UK leading cultural output, it is the only one of the three companies where the activity is provided free to the public, continuing its legacy of breaking down barriers of engagement with contemporary dance.

The platform which began in 2012 has so far featured the choreographic work of Wales based companies and independent artists TaikaBox, Harnisch Lacey Dance Theatre, Earthfall, Kim Noble and Hugh Stanier, combined with the innovative and groundbreaking Immersive filmmaking of 4Pi & its team.

The Dance Dome films have been screened in over 36 cities in countries as diverse as Australia, Argentina, Ukraine, U.S.A., China, Belarus, Russia, Spain, Brazil, Austria, Germany, Canada and the UK. 4Pi has also toured with their portable dome across the UK visiting Oxford, the Edinburgh Fringe Festival, Cardiff, Newport, Harlech, Aberystwyth and Swansea. In 2014 the dome was installed as a central piece at the 25th Macau International Arts Festival in China, making this its second trip to Asia for touring.

During the 8 day installation in Hong Kong, the Dance Dome will present the 360º dance films, The Beautiful, The Sublime and Liminality to local audiences for free. This presents a unique opportunity for 4Pi to disseminate their creative work further and showcase their innovation when it comes to live capture and storytelling for immersive spaces.

The Dance Dome platform has been co-produced with Coreo Cymru and has previously been supported by the Arts Council of Wales.  The film Liminality has been supported by British Council Wales, Wales Arts International and Coreo Cymru.

4Pi
The Dance Dome in Hong Kong

Mae’r cwmni nodedig o Gymru, 4Pi Productions, wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn nathliadau Canolfan Ddiwylliannol Hong Kong yn 30 oed. Bydd 4Pi yn cyflwyno’r platfform arloesol, Y Dôm Dawns, ochr yn ochr â dau o gewri bywyd diwylliannol y Deyrnas Unedig sef y London Symphony Orchestra a’r coreograffydd o fri rhyngwladol, Akram Khan.  

Mae’r Dôm Dawns wedi cael ei osod yn yr Hong Kong Piazza tan 12 Hydref. Mae’r tair ffilm ddawns ymdrochol sy’n cael eu cyflwyno yn y Dôm wedi bod yn hudo cynulleidfaoedd yno’n barod. Cafodd y ffilmiau hynod yma eu cynhyrchu ar y cyd â Coreo Cymru ac amryw o goreograffwyr o Gymru.

Mae’r Dôm Dawns yn cael ei gyflwyno fel rhan o ddathliadau Canolfan Ddiwylliannol Hong Kong yn 30 oed, ochr yn ochr â dau o gewri bywyd diwylliannol y Deyrnas Unedig, sef y London Symphony Orchestra ac Akram Khan. Ond mae’r Dôm Dawns yn wahanol am ei fod yn agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim, yn unol â chenhadaeth y fenter i agor drysau dawns gyfoes i gymaint o bobl â phosib.

Ers ei lansio yn 2012, bu’r platfform arloesol yma’n gyfrwng i gyflwyno coreograffi gan nifer o gwmnïau ac artistiaid annibynnol o Gymru fel TaikaBox, Harnisch Lacey Dance Theatre, Earthfall, Kim Noble a Hugh Stainer, law yn llaw â ffilmiau ymdrochol arloesol a blaengar a grewyd gan dîm 4Pi.

Mae ffilmiau’r Dôm Dawns wedi cael eu cyflwyno mewn dros 36 o ddinasoedd mewn gwledydd mor amrywiol ag Awstralia, yr Ariannin, Wcráin, U.D.A., Tsieina, Belarws, Rwsia, Sbaen, Brasil, Awstria, yr Almaen, Canada ac yn y Deyrnas Unedig. Mae 4Pi hefyd wedi mynd â dôm cludadwy ar daith yn y DU, gan ymweld â Rhydychen, Gŵyl yr Ymylon yng Nghaeredin, Caerdydd, Casnewydd, Harlech, Aberystwyth ac Abertawe. Yn 2014 roedd y Dôm Dawns yn un o brif atyniadau Gŵyl Celfyddydau Rhyngwladol Macau yn Tsieina. Felly’r trip yma i Hong Kong yw ail daith y Dôm i’r Dwyrain Pell.

Yn ystod preswyliad 8 diwrnod yn Hong Kong bydd y Dôm Dawns yn cyflwyno tair ffilm ddawns 360º yn rhad ac am ddim i gynulleidfaoedd lleol sef, The Beautiful, The Sublime a Liminality. Bydd hwn yn gyfle unigryw i 4Pi rannu eu gwaith creadigol gyda chynulleidfa ehangach fyth ac arddangos dulliau arloesol y cwmni o ddefnyddio technoleg i gyfryngu perfformiadau byw ac adrodd straeon mewn gofodau ymdrochol.

Cafodd platfform y Dôm Dawns ei gynhyrchu ar y cyd â Coreo Cymru, ac mae wedi derbyn nawdd yn y gorffennol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, British Council Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Coreo Cymru.

4pi