Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Open Call for Artists

Tŷ Pawb is inviting traditional and contemporary artists from across the globe to submit works for a brand new exhibition this October. The Tŷ Pawb Open will be the first exhibition to be held at Wrexham’s multi-award winning markets, community and arts centre since its closure due to the coronavirus pandemic.

The theme of the exhibition is an “exhibition celebrating lockdown creativity” and there is a particular interest in seeing how artists locally, nationally and internationally have continued to make work within the confines of lockdown.

Artists can submit up to three works. The deadline for entries is 12pm on 31st July.

The Tŷ Pawb Open Exhibition itself will open on 3rd October 2020 and run until 23rd December 2020.

There are four prize categories for entrants, including the Judges Prize (£1000), People’s Prize (£500), Adaptability Prize for the most inventive response to lockdown (£500) and Young Person’s Prize (£250)

For full details visit: www.typawb.wales/ty-pawb-open

Cllr Hugh Jones, Wrexham County Borough Council’s Lead Member for Communities, Partnerships, Public Protection and Community Safety, said: “The creative community around the globe has been hit hard by the pandemic and artists have had to find new ways of working and supporting each other through this difficult time. This exhibition will be a celebration of the creativity, innovation and resilience that has been developed by artists in lockdown all over the world over the last few months.

“We are encouraging artists everywhere  to submit works and get involved and we are looking forward with great excitement to be able to open this exhibition to the public in October.”

Datganiad I’r Wasg

Mae Tŷ Pawb yn Gwahodd Artistiaid i Gyflwyno Gweithiau ar gyfer Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr.

Mae Tŷ Pawb yn gwahodd artistiaid traddodiadol a chyfoes o bob cwr o’r byd i gyflwyno gweithiau ar gyfer arddangosfa newydd ym mis Hydref.

Arrdangosfa Tŷ Pawb Agored fydd yr arddangosfa  gyntaf i gael ei chynnal yn y ganolfan marchnadoedd, a gymuned Wrecsam ers iddo gau oherwydd pandemig coronafirws.

Thema’r arddangosfa yw “arddangosfa sy’n dathlu creadigrwydd yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr” ac mae diddordeb arbennig mewn gweld sut mae artistiaid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi parhau i wneud gwaith yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr.

Gall artistiaid gyflwyno hyd at dri gwaith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ar 31 Gorffennaf.

Bydd Arddangosfa Agored Tŷ Pawb yn agor ar 3 Hydref 2020 ac yn para tan 23 Rhagfyr 2020.

Mae pedwar categori gwobr i ymgeiswyr, gan gynnwys Gwobr y Beirniaid (£1000), Gwobr y Bobl (£500), Gwobr Addasrwydd am yr ymateb mwyaf dyfeisgar i’r cyfnod cloi-i-lawr (£ 500) a Gwobr Pobl Ifanc (£250)

Am fanylion llawn, ewch i: https://www.typawb.cymru/ty-pawb-agored

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r gymuned greadigol ledled y byd wedi cael ei tharo’n galed gan y pandemig ac mae artistiaid wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a chefnogi ei gilydd trwy’r amser anodd hwn. Bydd yr arddangosfa  yn ddathliad o’r creadigrwydd, yr arloesedd a’r gwytnwch a ddatblygwyd gan artistiaid yn ystod y cyfnod cloi-i-lawr ledled y byd dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Rydyn ni eisiau annog artistiaid o bob cefndir ledled y byd i gyflwyno gweithiau a chymryd rhan ac rydyn ni’n edrych ymlaen gyda chyffro mawr i allu agor yr arddangosfa hon i’r cyhoedd ym mis Hydref.”

Nodyn ar gyfer golygyddion: Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol sydd yn dod â’r celfyddydau a’r marchnadoedd ynghyd yn yr un lle. Mae’r cydfodoli hwn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam.

Mae’r datblygiad yn ofod newydd ar gyfer deialog o gylch pynciau sy’n cynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.

Byddwn yn cyflwyno rhaglen gyfoes o arddangosfeydd cynhwysol a chroesawgar, prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol a pherfformiadau byw. Bydd y rhaglen yn pwysleisio sgiliau a chrefftau, gweithio gydag artistiaid sy’n datblygu a rhai sefydledig o bob cefndir. www.typawb.cymru